Ydio’n bosib (neu’n ddymunol) i glydo ddwy sin wahanol Cymraeg at ei gilydd?

Imi yn bersonol mae cerddoriaeth yn arf hynod o bwysig all ni ddefnyddio fel wrth-propoganda yn erbyn gormes, yn erbyn trais a darostyngiad naturiol y wladwriaeth, er mwyn clymu mudiadau cymdeithasol a wleidyddol at eu gilydd, er mwyn lledeunu neges o heddwch a chariad. Yn Nhymru, mae’r sin eu hyn yn fach ofnadwy, a weithiau mae’n teimlo bron fel bod mewn bocs, a phob dim yn adleisio’r un swn’n bownsio’i ffwrdd o’r waliau, yr un portread ddi-flas o wlad sydd ddim cweit yn siwr o’i hyn, ddim cweit yn saff lle dani’n sefyll o fewn cyd-destyn y byd. Fodd bynnag, o fewn y blynyddoedd diwethaf mae ‘na sin wrth-wleidyddol, anarchol bywiog wedi datblygu ar strydoedd Caerdydd, a nid o dan arweiniad sin wrth-Gymraeg, Saesnigaidd, ond un sydd yn cael ei pheiriannu gen ddwy ffigwr amlwg ar y sin roc Cymraeg;- Efa Thomos (gynt o’r Stiletos) a Steffan Cravos (gynt o’r Tystion); sefydlwyd nhw’r label DIY Recordiau Afiach yn 2012. Y cwestiwn sydd yn pigo arna i hyd heddiw ydy:- Sut mae anarchiaeth a pync ar strydoedd Caerdydd yn berthnasol i stics Gogledd Cymru? Ydi neges y sin anarchol yn berthnasol i fudiadau eraill Cymraeg? Drost y flwyddyn diwethaf mae ‘na llwyth o brosiectau cyffroeus wedi dechrau sbarduno drost Cymru, fatha label Nyth fel esiampl. Ydio’n bosib i, dyda, label Peski, Nyth a Afiach (fel esiampl) trefnu gigs gyda’i gilydd? Ydi’n bosib (a’n ddymunol) i glydo’r sin at ei gilydd? 

Image

 

Afiach anarchiaeth cymraeg!!

 

Imi’n bersonol, mae Afiach wedi bod yn gyrff gefnogol o’n anturiaethau cerddorol, a wedi’n allugoi i i rhyddhau albwm, wedi trefnu taith fer o De Cymru i fy mhand, ag o cael y fraint o chwara yn gigs chwedlonol y Wells Hotel. Roedd y gigs wastad wedi’i drefnu’n dda, gyda cacenau fegan ar werth, fanzines, cerddoriaeth bywiog, bwyd, cwrw a digon o ysbryd pync yna. Ond, wrth weld rhai nosweithiau tebyg(-ish) yn dechrau sbarduno drost Cymru (fel gig Nadolig Nyth yn yr hen Cob Records yn Fangor) allai’m atal fy hyn rhag meddwl yn ddyfnach am cydduno’r ddwy sin. I raddfau, dyna pam teimlais i’r awydd (arol pottal o win) i ‘sgwennu hwn. Dim bod mae ‘na rhywyn yn gwrando i be dwi’n ddweud, ond jest rhag ofn. Ag ar y nodyn yna; y math o gigs sydd yn gael ei threfnu drwy defnydd o’r ddechymyg, fel y syniad o rhoi gig ‘mlaen yn yr hen Cob Records, neu’r syniad o rhoi cyfres o gigs ymlaen yn y Wells Hotel ydi’r math o digwyddiadau tebyg dwi’n cyfeirio tuag ato.     

 

Image

Mewn termau cerddorol, mae’r ddwy sin yn hollol wahanol, ond ydi’n bosib glydo’r ddwy sin ar sail cyd-weithrediad tuag at un sin Cymraeg, a llwyth o gigs creadigol a bywiog? Ella dwi’n bod yn naïf; ella tydi’r arian jest wirioneddol ddim yna i gynnal sin, na’i dalu fandiau i berfformio. Ond eto, ar y nodyn yna, mae ‘na lwyth o fandiau yn Cymru ar hyn o bryd, digon i gynnal sin lleol mewn bron phob cornel. Drwy cyd-weithrediad Nyth, Peski, Afiach, Sianel 62 a Cymdeithas yr Iaith wyrach all ni sefydlu un sin yn cynnal gigs ‘impromptu’ am ddim i bobl, a’r bandiau i chwara am ddim. Imi, y peth pwysicaf am cydduno sin yw y cydweithrediad, a’i grwpiau fod at ei gilydd er mwyn rhannu syniadau. Fel esiampl, mae gen Afiach y syniad o gofyn am ‘donations’ yn hytrach ’na ffi sefydlog, a’r arian yma wedyn yn mynd i dalu’r perfformwyr. Yn ychwanegol, os mae bobl awydd creu sin, a creu diwylliant, y lle gorau i ddechrau ydy drwy helpu. All bobl wahanol chyflawnu system PA, offerynau cerddorol, adloniant, celf, bwyd, diod ayyb fel esiampl. Y problem fwyaf wedyn wrth gwrs ydy cael hyd i lleoliadau sydd yn fodlon rhoi digwyddiad ymlaen am ddim. Un syniad gaddom ni (Radio Rhydd) blwyddyn a hanner ynol oedd i drefnu gig mewn hen twnnal tren oedd yn cysylltu’r chwaral Penrhyn gyda’r porthladd yn Fangor, lle losgodd ni flag Prydeinig wrth perfformio ‘Ffwcia’r Olympics’. Oedd hi’n bangar o noson!! Mae ‘na lun isod. Ond eniwe, y math yma o gigs ledled Cymru? Dani’n byw o dan crafangau ‘Tory Britain’ unwaith eto ‘for ffyc sakes,’ dau fys fyny i’r awdurdodau a dau fys fyny i’r cops. Gigs ym mhob man. Dyna sa’r boi. Rwbath i ostyriad ar gyfer y haf. Ond, dwi yn gwbod un peth; Mae Cymru llawn talent, a syniadau creadigol, dani jest angen creu rhywbeth newydd yn lle adleisio’r un tiwn, a’r un hen syniadau, a’r un hen ffycin’ playlists. Eniwe, dwi mynd ‘off on one’ rwan. 

 

Image

Radiceleiddio’r SRG gan Cai O’Marah

Radicaleiddio’r SRG

Ers imi gyfarfod Rhys Bowen Harries (ar y bas) yn Gŵyl Kaya dechrau’rmis Mehefin 2012, mae ein band (hefyd gyda aelod gwreiddiol, sefAntony Roberts – gitâr, a fy mrawd bach, Callum O’Marah – dryms) wedi mynd o nerth i nerth, efo’r uchafbwynt hyd yn hyn yn cynnwys cefnogi brenin cerddoriaeth reggae a roc a rôl Cymraeg, Geraint Jarman. Yn ogystal, gig yn Y Tap, Blaenau Ffestiniog gydag un o fandiau mwyaf cyffrous a dadleuol y sin ar hyn o bryd, sef Twmffat, ac ennill Brwydr y Bandiau Pesda Roc yn fraint anhygoel. Ond, wrth gofio’n ôl, er bod ein breuddwydion a dyheadau o newid y byd drwy ein cerddoriaeth yn enfawr, doeddwn i ddim yn credu bysa ein cerddoriaeth yn lledaenu yn llawer pellach na’r ‘stafell fyw. Ac i ddweud y gwir, roeddwn i yn darogan bod ein cerddoriaeth yn rhy ddadleuol i glustiau’r Gymru fach sydd wedi hen arfer efo synau swynol a cherddoriaeth pop sy’n canu am ddim byd o bwysigrwydd bellach.

Ond i ein syndod, mae pawb ym mhob gig danni wedi chware hyd yn hyn wedi bod yn gefnogol ofnadwy, ac mae ein llwyddiant diweddar yn destun bod pobl Cymru yn barod am fudiad radical unwaith eto. Ond, i ddweud hynny, hyd yn hyn mae Radio Rhydd wedi chware o flaen cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol Merthyr, Bethesda a Ffestiniog sy’n cael rhyddhad am noson, ac efallai fod y bobl  yma yn llawer mwy tuned in i’r anghyfiawnderau mae’r system gyfalafol yn creu, er gwaethaf yr holl ddifrawder ymysg y dosbarth gweithiol. Beth bynnag, mae’r sialens fwyaf eto i ddod – chware o flaen y dosbarth canol mewn trefi mwy ffynadwy fatha Aberystwyth. Ydyn nhw’n barod, neu awydd chwyldro? Ydi pobl Cymru yn barod i radicaleiddio’r SRG unwaith eto?

 

Y Sin Roc Gymraeg (SRG)

Ers bron i ddeg ‘mlynedd bellach, mae’r sin cerddorol yng Nghymru wedi bod mewn rhyw groundhog day time loop, a’r sin byth ‘di symud ymlaen o’r ‘post-Super Furry Animals/cool Cymru’ cyfnod. Er bod bandiau gwych gyda negeseuon a rhywbeth pwysig i ddweud wedi mynd a dod yn y cyfnod hwn (Pep Le Pew, Tystion, Pen-Ta-Gram,  Anweledig) tydi’r mwyafrif ddim yn cynnig rhywbeth newydd, rhywbeth peryglus, rhywbeth chwyldroadwy, rhywbeth radical a rhywbeth all pobl ifanc sy’n ceisio dal gafael ar hunaniaeth ac annibyniaeth wirioneddol uniaethu gyda. Yn ogystal, ‘does fawr ddim negeseuon a cherddoriaeth all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag yn bodoli yn y sin roc Cymraeg ar hyn o bryd. Fel canlyniad, yn fy marn i, mae ieuenctid Cymru wedi suddo mewn i fod yn genhedlaeth di-wleidyddol, difraw a diflas. Yn ogystal, mae’r sin roc Cymraeg yn llusgo yn ei flaen heb ddim cyfeiriad, tra bod bandiau dosbarth canol o gefndir  fel Glanaethwy (a sefydliadau pathetic dosbarth canol tebyg sy’n lladd unrhyw  siawns am unrhyw beth gwerth chweil i ddod o’r sin) yn gwneud yr headlines yn y cyfryngau Cymraeg.

Os yw Cymru am symud yn ei blaen fel cenedl ddewr, mae rhaid moderneiddio’r sin, mae rhaid radicaleiddio’r SRG, mae rhaid radicaleiddio a moderneiddio diwylliant Cymraeg yn gyfan gwbl. Hefyd mae’n rhaid llacio gafael y dosbarth canol ar ein diwylliant ni, ar ein cyfryngau ni, ac ar ein llywodraeth ni. Fel dywedodd y Twmffat -‘Mae aelodau Plaid Cymru yn gwisgo trôns Tori,’ ac mae hynny’n wir; Torïaid mewn cuddwisg genedlaethol yw’r mwyafrif.

 

Uchelgais i rôl Radio Rhydd mewn sin newydd

 Cyn inni ddechrau’r band, ein bwriad oedd creu rhyw fath o sianel radio peirat, neu anghyfreithlon (heb drwydded) lle fedrith unrhyw berson dros y wlad, neu hyd  yn oed y byd, gyfrannu tuag ato mewn termau cerddorol, neu farddonol, neu jest er mwyn pregethu, rantio a thrafod gwleidyddiaeth. Dim ond hwyrach ymlaen y trawsffurfiodd y syniad yma mewn i fand, a’r syniad o greu sianel radio yn disgyn lawr y pan, am y tro. Nawr, wrth feddwl am ein rôl ni mewn sin newydd o fewn ffiniau Cymru, mae’n rhaid cyfaddef fod ganom ni syniadau enfawr, gan gynnwys ceisio ysbrydoli mwy o fandiau yng Nghymru i gymryd llwybr syml mewn termau o ganu efo angerdd ac am rywbeth sy’n bwysig, rhywbeth all pobl dros y wlad, a hyd yn oed y byd cyfan uniaethu gyda.

I mi, mae’n anodd ofnadwy gwahaniaethu rhwng y celfyddydau a gwleidyddiaeth, wrth fod gan y celfyddydau’r potensial o gael rôl mor fawr i chware mewn  mudiadau gwrthwynebol. A nawr, ella’n bwysicach na byth, mae angen bandiau radical i ganu’n wleidyddol oherwydd mae’r craciau o du fewn i’r system gyfalafol yn dangos yn gliriach nac erioed o’r blaen. Mae rŵan yn amser perffaith i ymosod ar y system, ac mae’r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, yn offeryn cryf ofnadwy i’w ddefnyddio er mwyn gwneud hynny. Felly, dwi’n meddwl mai’n rôl ni o fewn sin newydd ydi i geisio cicio petha’i  ffwrdd unwaith eto, ar draws Cymru, swydd debyg i’r hyn wnaeth Y Tystion, ond bron i bymtheg ‘mlynedd yn ddiweddarach. Ac wrth fod y system gyfalafol yn creu gymaint o anghyfartaledd, yn atal pobl rhag byw bywydau boddhaol, yn ffafrio cystadleuaeth dros undod a ffyniant i bawb, rhyfel dros heddwch, casineb dros gariad, monopoleiddio dros hunan-gynaladwyo, elw dros bobl a buddion unigol dros gymunedau, mae’n amlwg fod newid yn y ffyrdd mae cymdeithas yn cael ei rhedeg angen digwydd; ac mae hi fyny  i’n cenhedlaeth ni i hybu’r newid cymdeithasol a gwleidyddol yma drwy brotest mewn ffyrdd cerddorol, celfyddydol a phrotestio. Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo ni; beth am o leiaf wneud rhywbath positif hefo fo, neu beth am o leiaf greu cerddoriaeth sy’n herio’r  status quo yn hytrach na cherddoriaeth sy’n ei atgyfnerthu!

 

Radicaleiddio’r SRG: Ydio’n digwydd?

Mae sawl band anhygoel, gwrthryfelgar a pheryg wedi grasau’r sin roc Cymraeg yn y gorffennol; ella’n fwyfwy amlwg yw bandiau pync yr 80’au, fel Yr Anhrefn a bandiau hip hop y 90’au a’r 00’au cynnar. Felly, ar ôl bron i ddeg ‘mlynedd o dawelwch a diffyg cyffro, ydi’n amser i fand peryglus a gwrthryfelgar arall daro’r sin fatha bom yn ffrwydro? Y cwestiwn mwyaf ydi: A yw pobl Cymru  yn gyffredinol hyd yn oed awydd diwygio’r sin cerddorol? Ydy ieuenctid Cymru hyd yn oed yn hiraethu am fand sy’n dweud fuck off  i bob awdurdod, band all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag ef ar bob lefel, band all wneud i bobl ifanc unwaith eto deimlo fel eu pont yn rhan o fudiad pwysig mewn hanes. Ydi pobl Cymru awydd y math yma o fand ar hyn o bryd? Yn fy marn i, mae’r sin yn llwgu am y math yma o fand, am fersiwn Cymraeg o’r Clash, Sex Pistols, King Blues, Anti-Flag, Ramones, Rage Against the Machine, ac mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen. Mae’n amser diwygio, mae’n amser newid, mae’n amser am welliant, mae’n amser i’r ieuenctid ddeffro unwaith eto, mae’n amser i roi sin cerddorol yng Nghymru lle all pobl ifanc deimlo’n rhan o fudiad, rhan o amser, teimlo’n fyw, a dweud fuck off heb i neb sbïo’n hurt. Felly, ydi newid yn digwydd o fewn y sin? Ar hyn o bryd, nac ydi, ond mae’r gefnogaeth mae Radio Rhydd wedi derbyn hyd yn hyn mewn gigs efallai’n dystiolaeth fod pobl yng Nghymru awydd diwygio’r sin, neu o leiaf yn hiraethu am fand mwy cyffrous, fwy peryglus, fwy gwrthryfelgar; Band hefo neges a rhywbath pwysig i’w ddweud!

 

Image

Cyfweliad Brythonica Cai O’Marah Gan Gai Toms

Lle? Gestiana, Porthmadog

Pryd? Tua 4.15. Ebrill 19, 2013

Mae Radio Rhydd yn fand cyffroes a di-flewyn ar dafod i ddweud y lleiaf! Gyda’i mix o pync, roc a hip hop maen’t yn brysur teithio’r wlad yn deffro pobl o’u ‘confensiynau pob dydd’. Oes mwy iddyn nhw na jest roc a rol pur? Cawsom sgwrs efo Cai O’Marah (y prif leisydd) i ddarganfod yn union hynny. Roedd Cai ar y ffordd adref i Fethesda o Aberystwyth ar y bws, ond yn barod i ddod i ffwrdd ym Mhorthmadog i sganio recordiau yn Cob Records a peint yn yr hen Australia, neu Gestiana fel y gelwir dyddiau yma. Diwrnod braf o Wanwyn!  

Llongyfarchiadau ar ‘Trapped in the Game’ (Recordiau AFIACH 2013), albwm cynta fel Radio Rhydd, hapus?

Ia, da ni’n meddwl bod yr albwm yn gyffredinol yn grêt. Be oeddan ni isio gal allan o’r albwm oedd dal yr egni da ni’n greu wrth chwarae’n fyw. Dyna be oeddan ni isio fel albwm cynta, onwards and upwards wan. ‘Da ni newy’ neud sengl dwy gân efo Gwyn Maffia, yn gerddorol mae hwnnw yn mwy ‘focused’ a mwy ‘together’ tra ma stwff yr albwm yn mwy roar a mwy pynci a stripped down, ond dyna yn union oeddan ni’n trio gal mewn ffordd

Pwy feddyliodd am enw’r band? Enw gwych!

Ym… dwi cofio Ant (gitarydd Radio Rhydd) a fi yn eistedd lawr ar diwrnod braf fel hwn lawr yn Ogwen bank, Bethesda. Ddaru ni feddwl am ddechra stesion radio hollol annibynnol a hollol autonomous…. yn y diwedd ddaru’r band jest bloomio o hynny.

 

Ma Radio Rhydd i gyd o ardal Bethesda, oes rywbeth am yr ardal sydd wedi sbarduno’r athroniaeth anarchaidd? Yntai o rwla arall?

Ym… na dwi’m yn meddwl fod o’n gysylltiedig efo Bethesda, mewn ffordd mae Bethesda yn dref traddodiadol dosbarth gweithiol a fyswn i’n dadla na ddim hynny nath sbarduno’r athroniaeth anarchiaeth sydd tu ol i’r band. Nath o ddatblygu dros cyfnod o amser, dwi cofio gwrando ar gerddoriaeth pync Prydeinig fatha Clash a Sex Pistols, ac ar y pryd oedd fi a fy ffrind, Rhys Cross, oeddan ni efo’r syniad ma o fod yn anarchwyr a chwythu pethau fyny! Wedyn, dwi cofio gneud cylchgrawn yn 6ed dosbarth efo’r athro cemeg, Dewi Gwyn o’r Anhrefn, a nath o esbonio i ni “Na, nid dyna ydi Anarchiaeth…” aeth o mlaen i ddeud mai syniad ydy o bod bobl efo cyn gymaint o barch at eu gilydd fel bo ni’m angen deddfau, dim angen llywodraeth a dim heddlu. Mae hyna wedi bod yn rhan ohonai ers hynny, engrained yn fy mhen i!

Lle es di i’r ysgol?

Dyffryn Ogwen…

Felly mae’r athroniaeth wedi dod o Bethesda mewn ffordd…?

Ia, mewn ffordd… ond mae wedi datblygu dros amser ers hynny. Mynd i bartis yn Gaerdydd a ballu… hefyd, es i deithio haf dwytha a mynd i weithio a byw mewn squats efo anarchwyr yn Copenhagen.

 

Image

 

 

Dylanwadau creadigol?

Ma dylanwad Rage Against the Machine (RAM) yn ofnadwy o amlwg… yn gerddorol,lyrical ac athronyddol …ac efo ffyrntmanship fi hefyd. Oni’n gwrando ar llwyth o Hip Hop ar y pryd…stwff Prydeinig fel Low Key a stwff Americanaidd fel Immortal Technique a wedyn llwyth o stwff Cymraeg, Pep le Pew a Tystion, mae gwrando ar albwm ‘Hen Gelwydd Prydain Newydd’ gan y Tystion wedi bod yn profound influence, dwi’m yn meddwl fysa na Radio Rhydd heblaw am yr albwm yna.

Ma Steffan Cravos yn rhan o set up Afiach (label recordiau)…

Yndi, Cravos nath y gwaith celf i’r albwm hefyd, sy’n gret… brilliant!

 

Image

 

Os fysa’r Toris yn cynnig £10,000 i Radio Rhydd chwarae mewn confrence, fysa chi neud o?

FFOCOFF!!!  (Chwerth!)

Oes rywbeth yn mynd ar dy nerfa di am yr SRG?

Oes, yn bendant! Mae na clique o fobl sy’n rheoli’r cyfryngau, sy’n rheoli’r playlistsCymraeg, sy’n rheoli’r sin Gymraeg… a mae nhw gyd efo monopoli dros be sy’n cael ei chwarae a be sy’n cael ei ddweud… ma hynny’n mynd ar fy nerfa i!

Hoff ffrwyth?

….yyyy, yyyyy…. dwi licio petha exotic fel Mangos a petha….

Pam?

Mae nhw’n ‘ffrwyth’loni fi!  (Chwerth!)

 

Image

 

Cwestiwn iddo’i hun: Yn wleidyddol, be ti feddwl o Gymru yn y byd sydd ohoni?

Mae sefyllfa Cymru o fewn Prydain yn mynd i newid lot dros y blynyddoedd nesa ma, yn enwedig os di’r Alban yn cael annibyniaeth. Fydd na lobi eithaf cryf wedyn, gobeithio, o fewn Cymru sydd yn gofyn am annibyniaeth. Os bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth mae rhaid ailffurfio y syniad o Brydain fel unit gwleidyddol, a gobeithio (mae na chance go lew neith hyn ddigwydd) y bydd o’n achosi y break-up o Brydain yn gyfan gwbl. Mae hyna’n mynd i fod yn ddiddorol i sefyllfa Cymru yn rhyngwladol. Ond, mae rhaid i ni weithio i ail-sbarduno diwylliant Cymru… mae cerddoriaeth yn mynd i chwarae rol enfawr…. jest angen bobl i ddechra bandiau lot mwy ffycin diddorol na be sy ar y sin ar y funud!

Ydi anarchiaeth a gwleidyddiaeth ffurfiol yn gallu plethu?

Os ti’n sbio ar y Zapatistiaid yn Chiapas, Mexico er enghraifft, mae nhw’n trio gneud be allyn nhw o’r sefyllfa mae nhw ynddo, ond yn dal i ddioddef o dlodi anferthol. Os ydy’r byd yn mynd i newid, os ydy cymunedau yn ffynnu ac os ydy cymunedau di-gyfalafol yn ffynnu… mae’n anodd iawn i hynny ddigwydd pan ma na fôr o wladwriaethau a corporations o’u gwmpas nhw yn trio ymestyn eu dylanwad. Rhaid i’r byd gyd-ymffurfio a chwilio am solutions gwell efo’r gilydd. Ma Cymru yn wlad mor fach, fel Chiapas (sy’n ranbarth fach yn Mexico)… i weithredu fel cymunedau mae cynhyrchu petha yn lleol yn ofnadwy o bwysig. Diolch i Thatcher, mwy ne lai, ma pob dim wedi cael ei breifateiddio… mae’r cwmniau yn dod o dramor… sdim llawer o ddim yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ddim mwy, na Cymru. Ond, os da ni’n edrych ar system sy’n cynhyrchu  yn lleol, dyna di’r ffordd ymlaen… fatha’r Zapatistiaid. Mae nhw’n cynhyrchu bwyd eu hunan, coffi a dosbarthu i’r byd cyfan… ma’n hollol fair trade gan fod y bobl yn defnyddio’r pres i ariannu’r autonomous region, sef Chiapas…. mae rhaid i ni sbio ar hwnna fel enghraifft da.

 

Be sydd nesa i Radio Rhydd?

Dwi’n gobeithio bydd lot o gigs yn digwydd. Ma be dwi isio allan o’r band yn eitha ambitious yn yr ystyr mod i isio cyfleu neges nid i gynulleidfaoedd  yng Nghymru yn unig, ond much further afield hefyd. Ar y funud ma’r sefyllfa’n eitha anodd, Rhys newy gael swydd, a Callum yn 16. Ond, ma Ant a fi yn llawn egni a’r ddau ohonom yn gorffen addysg blwyddyn yma, gyna ni llwyth o amser ar ein dwylo a da ni isio neud wbath efo fo, anodd ar hyn o bryd… ond watch this space, gobeithio am ddyfodol mawr.

SOUNDCLOUD RADIO RHYDD  @RadioRhydd

RECORDIAU AFIACH    @Afiach_DIY

 

Image

 

Radicaleiddio’r SRG

Ers imi gyfarfod Rhys Bowen Harries (ar y bas) yn Gŵyl Kaya dechrau’rmis Mehefin 2012, mae ein band (hefyd gyda aelod gwreiddiol, sefAntony Roberts – gitâr, a fy mrawd bach, Callum O’Marah – dryms) wedi mynd o nerth i nerth, efo’r uchafbwynt hyd yn hyn yn cynnwys cefnogi brenin cerddoriaeth reggae a roc a rôl Cymraeg, Geraint Jarman. Yn ogystal, gig yn Y Tap, Blaenau Ffestiniog gydag un o fandiau mwyaf cyffrous a dadleuol y sin ar hyn o bryd, sef Twmffat, ac ennill Brwydr y Bandiau Pesda Roc yn fraint anhygoel. Ond, wrth gofio’n ôl, er bod ein breuddwydion a dyheadau o newid y byd drwy ein cerddoriaeth yn enfawr, doeddwn i ddim yn credu bysa ein cerddoriaeth yn lledaenu yn llawer pellach na’r ‘stafell fyw. Ac i ddweud y gwir, roeddwn i yn darogan bod ein cerddoriaeth yn rhy ddadleuol i glustiau’r Gymru fach sydd wedi hen arfer efo synau swynol a cherddoriaeth pop sy’n canu am ddim byd o bwysigrwydd bellach.

Ond i ein syndod, mae pawb ym mhob gig danni wedi chware hyd yn hyn wedi bod yn gefnogol ofnadwy, ac mae ein llwyddiant diweddar yn destun bod pobl Cymru yn barod am fudiad radical unwaith eto. Ond, i ddweud hynny, hyd yn hyn mae Radio Rhydd wedi chware o flaen cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol Merthyr, Bethesda a Ffestiniog sy’n cael rhyddhad am noson, ac efallai fod y bobl  yma yn llawer mwy tuned in i’r anghyfiawnderau mae’r system gyfalafol yn creu, er gwaethaf yr holl ddifrawder ymysg y dosbarth gweithiol. Beth bynnag, mae’r sialens fwyaf eto i ddod – chware o flaen y dosbarth canol mewn trefi mwy ffynadwy fatha Aberystwyth. Ydyn nhw’n barod, neu awydd chwyldro? Ydi pobl Cymru yn barod i radicaleiddio’r SRG unwaith eto?

 

Y Sin Roc Gymraeg (SRG)

Ers bron i ddeg ‘mlynedd bellach, mae’r sin cerddorol yng Nghymru wedi bod mewn rhyw groundhog day time loop, a’r sin byth ‘di symud ymlaen o’r ‘post-Super Furry Animals/cool Cymru’ cyfnod. Er bod bandiau gwych gyda negeseuon a rhywbeth pwysig i ddweud wedi mynd a dod yn y cyfnod hwn (Pep Le Pew, Tystion, Pen-Ta-Gram,  Anweledig) tydi’r mwyafrif ddim yn cynnig rhywbeth newydd, rhywbeth peryglus, rhywbeth chwyldroadwy, rhywbeth radical a rhywbeth all pobl ifanc sy’n ceisio dal gafael ar hunaniaeth ac annibyniaeth wirioneddol uniaethu gyda. Yn ogystal, ‘does fawr ddim negeseuon a cherddoriaeth all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag yn bodoli yn y sin roc Cymraeg ar hyn o bryd. Fel canlyniad, yn fy marn i, mae ieuenctid Cymru wedi suddo mewn i fod yn genhedlaeth di-wleidyddol, difraw a diflas. Yn ogystal, mae’r sin roc Cymraeg yn llusgo yn ei flaen heb ddim cyfeiriad, tra bod bandiau dosbarth canol o gefndir  fel Glanaethwy (a sefydliadau pathetic dosbarth canol tebyg sy’n lladd unrhyw  siawns am unrhyw beth gwerth chweil i ddod o’r sin) yn gwneud yr headlines yn y cyfryngau Cymraeg.

Os yw Cymru am symud yn ei blaen fel cenedl ddewr, mae rhaid moderneiddio’r sin, mae rhaid radicaleiddio’r SRG, mae rhaid radicaleiddio a moderneiddio diwylliant Cymraeg yn gyfan gwbl. Hefyd mae’n rhaid llacio gafael y dosbarth canol ar ein diwylliant ni, ar ein cyfryngau ni, ac ar ein llywodraeth ni. Fel dywedodd y Twmffat -‘Mae aelodau Plaid Cymru yn gwisgo trôns Tori,’ ac mae hynny’n wir; Torïaid mewn cuddwisg genedlaethol yw’r mwyafrif.

 

Uchelgais i rôl Radio Rhydd mewn sin newydd

 Cyn inni ddechrau’r band, ein bwriad oedd creu rhyw fath o sianel radio peirat, neu anghyfreithlon (heb drwydded) lle fedrith unrhyw berson dros y wlad, neu hyd  yn oed y byd, gyfrannu tuag ato mewn termau cerddorol, neu farddonol, neu jest er mwyn pregethu, rantio a thrafod gwleidyddiaeth. Dim ond hwyrach ymlaen y trawsffurfiodd y syniad yma mewn i fand, a’r syniad o greu sianel radio yn disgyn lawr y pan, am y tro. Nawr, wrth feddwl am ein rôl ni mewn sin newydd o fewn ffiniau Cymru, mae’n rhaid cyfaddef fod ganom ni syniadau enfawr, gan gynnwys ceisio ysbrydoli mwy o fandiau yng Nghymru i gymryd llwybr syml mewn termau o ganu efo angerdd ac am rywbeth sy’n bwysig, rhywbeth all pobl dros y wlad, a hyd yn oed y byd cyfan uniaethu gyda.

I mi, mae’n anodd ofnadwy gwahaniaethu rhwng y celfyddydau a gwleidyddiaeth, wrth fod gan y celfyddydau’r potensial o gael rôl mor fawr i chware mewn  mudiadau gwrthwynebol. A nawr, ella’n bwysicach na byth, mae angen bandiau radical i ganu’n wleidyddol oherwydd mae’r craciau o du fewn i’r system gyfalafol yn dangos yn gliriach nac erioed o’r blaen. Mae rŵan yn amser perffaith i ymosod ar y system, ac mae’r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, yn offeryn cryf ofnadwy i’w ddefnyddio er mwyn gwneud hynny. Felly, dwi’n meddwl mai’n rôl ni o fewn sin newydd ydi i geisio cicio petha’i  ffwrdd unwaith eto, ar draws Cymru, swydd debyg i’r hyn wnaeth Y Tystion, ond bron i bymtheg ‘mlynedd yn ddiweddarach. Ac wrth fod y system gyfalafol yn creu gymaint o anghyfartaledd, yn atal pobl rhag byw bywydau boddhaol, yn ffafrio cystadleuaeth dros undod a ffyniant i bawb, rhyfel dros heddwch, casineb dros gariad, monopoleiddio dros hunan-gynaladwyo, elw dros bobl a buddion unigol dros gymunedau, mae’n amlwg fod newid yn y ffyrdd mae cymdeithas yn cael ei rhedeg angen digwydd; ac mae hi fyny  i’n cenhedlaeth ni i hybu’r newid cymdeithasol a gwleidyddol yma drwy brotest mewn ffyrdd cerddorol, celfyddydol a phrotestio. Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo ni; beth am o leiaf wneud rhywbath positif hefo fo, neu beth am o leiaf greu cerddoriaeth sy’n herio’r  status quo yn hytrach na cherddoriaeth sy’n ei atgyfnerthu!

 

Radicaleiddio’r SRG: Ydio’n digwydd?

Mae sawl band anhygoel, gwrthryfelgar a pheryg wedi grasau’r sin roc Cymraeg yn y gorffennol; ella’n fwyfwy amlwg yw bandiau pync yr 80’au, fel Yr Anhrefn a bandiau hip hop y 90’au a’r 00’au cynnar. Felly, ar ôl bron i ddeg ‘mlynedd o dawelwch a diffyg cyffro, ydi’n amser i fand peryglus a gwrthryfelgar arall daro’r sin fatha bom yn ffrwydro? Y cwestiwn mwyaf ydi: A yw pobl Cymru  yn gyffredinol hyd yn oed awydd diwygio’r sin cerddorol? Ydy ieuenctid Cymru hyd yn oed yn hiraethu am fand sy’n dweud fuck off  i bob awdurdod, band all pobl ifanc wirioneddol uniaethu gydag ef ar bob lefel, band all wneud i bobl ifanc unwaith eto deimlo fel eu pont yn rhan o fudiad pwysig mewn hanes. Ydi pobl Cymru awydd y math yma o fand ar hyn o bryd? Yn fy marn i, mae’r sin yn llwgu am y math yma o fand, am fersiwn Cymraeg o’r Clash, Sex Pistols, King Blues, Anti-Flag, Ramones, Rage Against the Machine, ac mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen. Mae’n amser diwygio, mae’n amser newid, mae’n amser am welliant, mae’n amser i’r ieuenctid ddeffro unwaith eto, mae’n amser i roi sin cerddorol yng Nghymru lle all pobl ifanc deimlo’n rhan o fudiad, rhan o amser, teimlo’n fyw, a dweud fuck off heb i neb sbïo’n hurt. Felly, ydi newid yn digwydd o fewn y sin? Ar hyn o bryd, nac ydi, ond mae’r gefnogaeth mae Radio Rhydd wedi derbyn hyd yn hyn mewn gigs efallai’n dystiolaeth fod pobl yng Nghymru awydd diwygio’r sin, neu o leiaf yn hiraethu am fand mwy cyffrous, fwy peryglus, fwy gwrthryfelgar; Band hefo neges a rhywbath pwysig i’w ddweud!

 

Image

 

What would it take for a Welsh language band to pull 7000 punters ? By Rhys Mwyn

An almost insignificant tweet by Owain Schiavone @owainsgiv editor of Y Selar magazine on the 22nd of December  put a very good question out there. Basically, what would it take for a current Welsh language band to have the pulling power of Edward H ? Edward H’s ‘Farwell Concert’ at the 2013 Eisteddfod had been shown again on S4C, as ‘Mwy o Gig Olaf Edward H Dafis’ and I’m guessing that it’s this repeat showing that prompted the tweet.

 

The gig has already attained mythical status, with accounts of anything up to 7,000 present and the who’s who of the Welsh rock scene all in attendance (well Huw Stephens and Dyl Mei) and probably a good number of current Welsh band members checking out the ‘legends’. Actually, watching ‘Pethe 2013’ on S4C recently, the attendance figure had gone up to 8,000. It can only go up !

 

Whatever the Pop theories, and there are certainly no easy answers, I do agree with Schaivone, in the sense that it would be great to see several young / old / current Welsh language bands who could pull 7,000 punters. It’s a shame that as a scene we have managed to do this with only one band. On the other hand, it’s not a numbers game – what if we were to debate online which is the best band – Edward H or Datblygu or which is the Best Welsh language band of each decade, you would have more criteria than punters at a gig for sure ??????

 

But to focus on Schiavone’s point, such a question could probably occupy a Phd student but here’s a simplified version of 10 thoughts on why and how.

 

1.    Edward H were the first Welsh language Rock’n Roll band to really make the effort to play live and release records and to present Welsh language audiences (mainly) with a band they could relate to. Y Blew had released an excellent record (Maes B) in 1967 but had split after one tour, therefore although technically y Blew can claim to be the first Welsh language rock band, they probably didn’t stick around long enough to make any serious in-roads.

 

Edward H will always be seen as the first Welsh language rock band – that’s a head start.

 

2.    Edward H had two front persons in Cleif Harpwood and Dewi Pws, both colourful characters, both with presence, and probably more importantly, the girls fancied them. Both had been in other bands, they had enough stage experience to pull this off.

 

3.    There is an argument that Edward H were a proto ‘boy band’. The musical directorship and songwriting / arranging / production talents of Hefin Elis should not be underestimated. If you study the history of Welsh language Pop music, Elis is always there in the background putting bands together, writing songs. Elis was there with Dafydd Ifans before Y Blew, he was, and is, there with Dafydd Iwan. Elis is a quiet unassuming musical Svengali. Elis wanted to put a Welsh language rock band together because he’d seen there was a gap in the market, but more for promoting the language than for commercial motives.

 

4.    Edward H had image, the red neck scarfs, the waistcoats, the denims, they looked like acool version of the audience (students and farmers). The audience dressed like their heroes. It was win win. In terms of fashion this is definitely pre-Mclaren and Westwood and not a whiff of Roxy Music or David Bowie to be seen. More Status Quo than anything else.

 

5.    Edward H were political. Songs such as ‘Yn y Fro’ and ‘Ty Haf’ struck the right chords politically. Welsh language pop music has always been a bedfellow of the language campaign. Of course they also wrote ballads, ‘Ysbryd y Nos’ case in point, which must be one of the most played (to death) songs on BBC Radio Cymru, but essentially you have a band singing to an audience who empathise with the songs. This is a must.

 

6.    Sex. How many young Welsh-sters must have lost their virginity at Edward H gigs. Never underestimate the importance of Sex. Pop music is all about Sex (even when it’s about saving the Welsh language). Whether the band realised this or not, but again for Edward H it was win win.

 

7.    Throughout the 1980s, and in many a DJ case, right up to the present day, the Welsh Media portrayed the Edward H period as the “Oes Aur” (the Golden Age of Welsh Pop). In fact the media who propagated this myth were merely reflecting (and wallowing in) their own impressions of their own youth, not realising that Pop music never stay’s still, but in true Murdochesque fashion this eventually translates as fact. It’s a Beatles situation – no new band can ever be better than this. In this sense the Welsh Media have a lot to answer for, not for constantly promoting Edward H, but for failing to give any new band the space or enough rope to create new myths.

 

Case in point is the failure to fully grasp or support Cyrff or Ffa Coffi Pawb who eventually morph into Catatonia and Super Furry Animals (who were vastly more successful than Edward H and Internationally to boot) but it took success in England and the sanction of the NME for the Welsh Media to fully catch on. ‘Cool Cymru’ is a logical conclusion to the “Oes Aur”. We can’t win so we will sing in English.

 

8.    Edward H probably reached the more ‘traditional’ Welsh audience. It’s a similar audience shared by Bryn Fon. The more straight (non queer) the whole thing is, the better. Cyrff always had weird haircuts and probably took drugs and were townies from Llanrwst. They had no chance. Edward H did not challenge anybody musically, it was Quo riffs meets Celtic twighlight folk, distinctly Welsh / Cymreig in that it looked traditional enough, straight enough. Frankie Goes To Hollywood would have been lynched at an Edward H gig. It’s all about the perception of being ‘gwerinol’ one of the ‘hogia’, ‘hogia ni’. In this sense Bryn Fon is totally carrying the torch in the 21st century.

 

9.    Actually if you look back at the live footage and listen to some of the recordings, they were a pretty good Rock’n Roll band. They had energy, they gave off an energy. It was not until Trwynau Coch, Geraint Jarman and Maffia Mr Huws later on in the 70’s / early 80’s  that any other Welsh language bands actually gave this much energy out on stage. Political anger can be an energy source for rock’n roll lightbulbs.

 

10.  We have to make it clear – it’s not Edward H’s fault. They did what they did and at the right time. Hergest or Shwn would not have had the same impact had either of those bands been the so called first Welsh language rock band. Maffia probably worked harder, did more gigs but could not compete with their heroes. The legacy is a catalogue of fine songs, many a classic and a few duff numbers for sure.

 

 

 

So what should the current Welsh language bands do ?

 

1.    Short of calling themselves Edward H and singing in English, I don’t know. Mind you a band called Edward H singing in English is not going to make much sense in downtown Newcastle or Glasgow and singing in English is going to be a bit of a turn off / bit tricky getting paid, at the Eisteddfod.  Try naming your band Edward Furry Animals, Edwardphonics, Funeral for an Edward or the Manic Street Edwards, that might help a little bit.

 

2.    Tony Wilson’s pop theory about real talent always finding a way through all the dross seems to be manifesting itself in the career trajectory of Georgia Ruth. Here is real talent, sex appeal, song-writing skills and a real ‘hit’ with Week of Pines. Maybe it’s that simple, be cool and write a great tune. Georgia has matured as an artist, she has been given space to develop within Wales and she is now moving on up. Week of Pines is a great song for sure but had this been sung in the Welsh language would it have had the same effect ?  Do the Edward H / Bryn Fon fans get Georgia Ruth ?

 

I suspect it no longer matters, Georgia will continue onwards and upwards in both languages but will not confined or defined by the Welsh language scene. Even if Georgia has International success, she is no more likely to pull 7,000 at a future Eisteddfod than Gruff Rhys and Cerys Matthews combined next year. That tradition is signed, sealed and delivered and is firmly Oes Aur forever more. You have to find another venue, another gig – try Margam Park or something and call the gig ‘Home International’.

 

3.    Stop doing gigs in front of your mates. Rule No 1. Your mam and Anti Nel are always going to tell you that you are a great band. The real test is to play in front of a hostile audience or an audience where the band has no relatives, friends or school mates. That’s the test – can you engage with Joe Public on songs and performance alone ? The Welsh language scene is at times too much like a mutual appreciation society – they will not like this, but for all their awards and back slapping and Eisteddfod gigs – the fact remains, it get’s them nowhere – because they have not grafted for the real audience, the real fans – that takes several years of hard work and loads of gigs, not a Huw Stephens session a Maes B headliner or a Selar award. False economy. It’s not meant to be easy or quick.

 

I know, I know, some bands are out there grafting, well, you just have to keep keeping on if you believe in what you do – my point is don’t believe the Welsh hype, you have to believe the audience – they are what counts. If no one turns up then you have to ask why – lack of advertising and blame the promoter or face up to the fact you band’s shit !

 

 

 

4.    It’s not as simple as singing in English. God, we’ve had our fair share over the years of bad Welsh language bands that have been given far too much exposure / airtime / TV slots when they should have been doing a gig in the local pub. The Welsh language scene has no filter, no bullshit detector, no discerning mechanisms – that’s always been a thing with the Welsh language scene. It’s worse since ‘Cool Cymru’, they all think that if they do a song in English they will turn into Super Furry Animals overnight as if by magic, shown by God of course.

 

 

 

5.    Bring back politics. Save the Welsh language or something. Does anybody know or care what some of the current bands are singing about or stand for ? You could enjoy Edward H, get pissed, get laid and still sing about Holiday Homes. You have to have something interesting to say, at least some of the time. Be funny, be sharp, be controversial even – but you have to be in some way interesting and intelligent outside the confines of the band. Of course it’s a generational thing, the teenagers will relate to their peer bands but that’s not enough to pull 7,000 punters, not that Edward H ever pulled 7,000 back in the day. They might have done a few gigs with 1,000 punters, but then so have Bryn Fon, Dafydd Iwan – probably just as many. The sad fact is that you only pull 7,000 (if it was of course) after 40 years of the Media telling everybody in the Welsh language scene that you are the best Welsh band ever and constantly playing your songs – but you still have to carry it off – which Edward H have always done.

 

 

 

But then again, shooting at the Media is too simplistic, the same amount of Media exposure for Llygod Ffyrnig or Datblygu would not have resulted in 7,000 at the Eisteddfod, not even after 400 years.

 

 You have to know your audience.

 

6.    There is also the question of what is meant by success. For bands such as Datblygu, arguably, it was recording several John Peel Sessions and that was almost enough – they hated doing gigs anyway. But Ffa Coffi Pawb and Cyrff ran out of places to play and places to go on the Welsh language scene, so for them it was sing in English or Dai.

 

Bands such as Radio Rhydd, following in the tradition of rebel rousers like Tystion or even Elfyn Presli back in post-punk days, are doing what they do, no compromise, for them surely it’s about doing the right gigs, for the right causes and keeping hold of artistic freedom and integrity. An Eisteddfod gig should be seen as a compromise in one sense, all establishment and no Anarchy, so we cannot evaluate the success or failures of  Radio Rhydd or Datblygu with the same microscope as the one we use for Edward H. It’s not always about the numbers.

 

Mind you Radio Rhydd supporting Edward H in front of 7,000 at the Eisteddfod would have been an interesting (not to miss) event.

 

7.    There are very good bands out there today. Gwenno is producing some of her best stuff ever, ‘Chwyldro’ is pure elctro-pop genius. The Lovely Wars are doing the Darling Buds punk-pop thing and we could argue that the Welsh Pop Wars have been won – certainly in terms of song-writing and production, we now have cool urban pop, we have current sounds and well dressed bands, but to compare them in any way to Edward H is to miss the point. These acts have to find and build their own audience – they (as did Datblygu and Cyrff in post-Punk days)  have to create Culture for the new Wales, a forward looking and forward thinking Wales – their problem is that they will be too cool, too urban, too well read, too referenced, too style, too visual, too articulate for the Edward H audience (young or old). They will create a new audience, they will re-define the borders and at the same time blur and smash the borders, and they will, they will !

 

8.    Tunes, again there are plenty of current or recent great tunes out there, Yr Ods ‘Cofio Chdi o’r Ysgol’ is one that comes to mind as a great, great tune and Colorama had a good one as well, but I can never remember the song title – maybe that’s part of it. Yr Ods and Colorama produce great pop but are they great bands, do they change people’s lives  ? – Edward H did change people’s lives, Datblygu changed people’s lives. Sometimes it has to be that vital, that life changing.

 

9.    Our overall failure as the Welsh language scene to move forward, our ambition to stay in that little world, the Welsh bubble, that’s not good.

 

10.  Great Welsh language bands who did not pull 7,000. Big Leaves, Trwynau Coch, Tynal Tywyll, Traddodiad Ofnus, Geraint Jarman, Brodyr, Heather Jones, Topper, Melys, Ffa Coffi Pawb, Y Gwefrau and on and on and on ………

 

One’s to watch : Y Ffug, Radio Rhydd, Lovely  Wars

 

Ones that should reform : Big Leaves definitely, Topper yes, Brodyr why not …… Trwynau Coch at ‘Rebellion’ maybe.

 

Ones that can never reform with the original line up sadly : Elfyn Presli, Cyrff, Fflaps.